
Gweithgaredd cychwynnol
Gweithgaredd cychwynnol byr i annog y disgyblion i feddwl am ddathlu tebygrwydd a gwahaniaethau.
Mae’r pecyn hwn yn defnyddio’r gerdd newydd Beautifully different, Wonderfully the same gan Joseph Coelho er mwyn helpu eich disgyblion i ddysgu am amrywiaeth drwy farddoniaeth a’u helpu i ysgrifennu eu cerdd eu hunain ar gyfer Cystadleuaeth Writing Stars. Cyflwynwch gynigion eich disgyblion ar-lein neu drwy’r post gan ddefnyddio’r ffurflen gystadlu Dosbarth isod. Mae yna daflenni gweithgaredd cyflwyno cerddi i ddisgyblion eu llenwi. Dewch i ddysgu mwy am y gystadleuaeth a’r gwobrau rhyfeddol sydd i’w hennill.
Bydd disgyblion yn gallu:
To get an instant zip folder of all downloads, you must first sign in...
Sign in
Gweithgaredd cychwynnol byr i annog y disgyblion i feddwl am ddathlu tebygrwydd a gwahaniaethau.
Dangoswch y ffilm hon er mwyn helpu’r disgyblion i feddwl am ffyrdd creadigol o fynegi dathliad.
Mae’r gweithgaredd yma yn annog y disgyblion i feddwl am beth mae amrywiaeth yn ei olygu iddyn nhw, gan greu banc geiriau a throi hynny yn gerddi i’w cyflwyno i’r gystadleuaeth.
Cyn cyflwyno eu cynigion terfynol i’r gystadleuaeth, mae’r disgyblion yn asesu cerddi ei gilydd yn y gweithgaredd adborth “dwy seren a dymuniad” yma.